O’n Cwmpas

Mae Bodalwyn wedi’i leoli’n berffaith ar gyfer archwilio popeth sydd gan yr ardal hardd hon o Gymru i’w gynnig. Mae Aberystwyth yn dref glan môr Fictoraidd bywiog yng nghanol Bae Ceredigion gyda llawer i’w gynnig i’r teulu cyfan.

Beth am fwynhau mynd am dro hamddenol ar hyd y promenâd ysblennydd neu efallai gerdded i fyny Craig-Glais (“Consti”) lle ceir olygfa ogoneddus dros y bae? Neu, os nad oes awydd cerdded arnoch, trafaeliwch mewn steil ar Rheilffordd y Graig – rheilffordd clogwyn trydan hiraf Prydain – i’r brig, lle dowch o hyd i gaffi / bwyty a’r camera obscura.

Os ydych chi’n teimlo’n egnïol, profwch fudd awyr iach y môr trwy gerdded ar hyd llwybr yr arfordir lawr at y bae nesaf yn Clarach neu ewch yn eich blaenau ymhellach am Borth.

Mae gan Aberystwyth fywyd nos bywiog gyda digon i’w weld a’i wneud yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, lle gellir gwylio llawer o enwogion y diwydiannau cerdd ac adloniant yn perfformio yn aml.

Os mai diwylliant sydd yn mynd a’ch bryd, gallwch ymchwilio hanes y dref ymhlith adfeilion y castell 12fed ganrif, neu ddarganfod mwy am orffennol hynod yr ardal trwy ymweld ag Amgueddfa’r dref. Yn ogystal, gallwch archwilio rhai o lawysgrifau prinnaf Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol – neu beth am droi’n dditectif i olrhain eich coeden deulu? Ymwelwch a  Llyfrgell Cenedlaethol Cymru,  ble mae llawer o drysorau mwyaf gwerthfawr Cymru yn cael eu cadw.


Os ydych am gadw’n heini gallwch losgi calorïau trwy redeg ar hyd y promenâd, chwarae tenis ar y cyrtiau lleol sydd gyferbyn â ni, defnyddio’r ganolfan hamdden neu chwarae rownd neu ddwy o golff yng  Nghlwb Golff Aberystwyth

Os am olygfeydd godidog,  mae rhannau o gefn gwlad harddaf Cymru a llawer o draethau braf gan gynnwys Ynyslas, Aberdyfi ac Aberaeron i’w cael o fewn ychydig funudau mewn car o’r dref.

Ni allwch ymweld â’r ardal heb drafaelio ar drên bach stêm Dyffryn Rheidol ar daith 45 munud i fyny Dyffryn Rheidol hyd at Bontarfynach, gyda’i  rhaeadrau ysblennydd  a grisiau’r diafol. Rhyw filltir yn unig oddi yno, dewch ar draws Yr Hafod a ddyluniwyd yn yr arddull “ddarluniaidd” yn ystod diwedd y 18fed ganrif gan Thomas Johnes, arloeswr ym maes dylunio tirwedd. Amcangyfrifir bod yr ystâd wirioneddol brydferth hon yn croesawu oddeutu 13,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.

Treuliwch ddiwrnod yn crwydro Mynyddoedd y Cambrian  neu ymweld â’r Abaty Sistersaidd yn Ystrad Fflur. Ewch i wylio’r adar yn Ynyslas, ynghyd â chrwydro’r milltiroedd o draethau euraidd a’r twyni tywod. A sôn am adar, peidiwch ag anghofio ymweld â  Chanolfan Goedwig Bwlch Nant-yr-Arian naw milltir i’r dwyrain o Aberystwyth, lle cewch wylio’r olygfa fythgofiadwy o farcutiaid coch yn cael eu bwydo. Tra’ch bod chi yno, beth am fynd am dro ar hyd un o’r llwybrau cerdded neu fentro ar un o’r llwybrau beicio mynydd?


Gallwch hefyd ddefnyddio’r dolenni hyn i gael rhagor o wybodaeth am weithgareddau ac atyniadau o fewn radiws 15 milltir –  www.visitmidwales.co.uk   a  www.aberystwyth.org.uk, neu gallwch gysylltu â chanolfan groeso Aberystwyth ar 01970 612125: neu e-bostio:
aberystwythtic@ceredigion.gov.uk