Gwasanaethau Gwestai

System Cyrraedd a Gadael di-gyffwrdd.

Gallwn gynnig System Cyrraedd a Gadael di-gyffwrdd ar gyfer ymadawiadau cynnar / cyrraedd yn hwyr neu yn ystod adegau pan fydd y swyddfa ar gau. Pe dymunwch hyn, byddwn yn anfon cyfarwyddiadau atoch.

Cŵn

Rydym yn croesawu cŵn, heb unrhyw dâl ychwanegol a byddwn yn cadw ystafelloedd penodol er mwyn i gŵn aros gyda’u perchnogion. Mae gennym hefyd ystafelloedd ble nad ydym yn lletya anifeiliaid anwes ynddynt (ar gyfer gwesteion ag alergeddau).

Gofynnwn yn barchus i chwi sicrhau nad yw cŵn yn mynd ar welyau gwesteion, eu bod yn cysgu yn eu gwely cŵn neu fasged eu hunain ac na chânt eu gadael heb oruchwyliaeth ar unrhyw adeg. Mae gennym bowlen ddŵr i gŵn y tu allan i’r drws ffrynt a dewis o ddanteithion blasus i wneud iddynt deimlo mor gartrefol â’u perchnogion.