Wedi’i leoli o fewn pellter cerdded hwylus i ganol tref Aberystwyth, mae gwesty Bodalwyn oddeutu deng munud o gerdded o’r gorsafoedd bysiau a threnau ac ychydig eiliadau yn unig o bromenâd glan y môr Fictoraidd y dref.
Yn y car
A44 o’r dwyrain: wrth ddod mewn i Llanbadarn Fawr, ewch heibio gorsaf betrol Texaco ar y chwith cyn dod at ddwy gylchfan fach, cymrwch yr allanfa gyntaf ar y gylchfan fach gyntaf ac yn syth wedyn, ar yr ail gylchfan fach, cymrwch yr ail allanfa wedi’i harwyddo’n A44 Aberystwyth. Parhewch ymlaen wedyn am oddeutu milltir nes dod at gyffordd T. Yma mae angen i chi groesi bron yn syth ar draws y gyffordd hon, i mewn i Ffordd y Gogledd. Dilynwch y ffordd yma yr holl ffordd hyd y diwedd tan mae’r ffordd yn rhoi i’r chwith i mewn i Goedlan y Frenhines, ac fe welwch ni yn syth o’ch blaen.
A487 o’r de: wrth ddod mewn i Aberystwyth, cymerwch yr allanfa gyntaf ar y gylchfan wedi ei arwyddo A487 Aberystwyth a pharhewch ymlaen am oddeutu milltir, yr holl ffordd i ganol y dref, yna, ewch yn syth ymlaen heibio twr y cloc mewn i Heol y Wig ac yna dilyn y ffordd i’r dde i mewn i Glan y Môr a pharhewch ar hyd glan y môr cyn cymryd yr ail droad i’r dde i fewn i Maes Albert. Byddwch nawr yn gallu ein gweld yn syth o’ch blaen dros y gyffordd – mae Gwesty Bodalwyn ar y chwith, gyferbyn â’r maes parcio.
A487 o’r gogledd: dewch lawr Rhiw Penglais a throi i’r dde ar y gwaelod (gyferbyn â thafarn Y Cŵps), i mewn i Ffordd y Gogledd. Gan fod hon yn cadw i’r chwith mewn i Goedlan y Frenhines, allwch chi ddim methu ein gweld yn syth o’ch blaen
Ar drafnidiaeth gyhoeddus
Mae’r gorsafoedd trenau a bysiau wedi’u lleoli ar Ffordd Alexandra. Croeswch ar draws y ffordd i Ffordd y Môr a cherddwch yn syth ymlaen hyd at lan y môr, yna trowch i’r dde. Dilynwch y cyntaf i’r dde eto i mewn i Maes Albert, croeswch yn syth dros y gyffordd ac mae Bodalwyn tua 50 llath i fyny ar y chwith.
What Three Words
Os ydych chi’n defnyddio WTW i fynd o gwmpas a dod o hyd i leoedd, dyma ein WTW: office.replaced.layers
Recent Comments