Croeso
Ymlaciwch mewn amgylchedd cyfforddus, hanner munud yn unig o fewn cyrraedd promenâd glan y môr Traeth y Gogledd Aberystwyth. Lle ceir sicrwydd o noson dda o gwsg.
Yn meddu ar awyrgylch hamddenol cartref preifat unigryw, mae ein tŷ tref Edwardaidd a adferwyd yn ofalus yn asio ceinder yr hen fyd â chysur cyfoes, gan ddarparu hafan dawel tu hwnt i brysurdeb y byd modern.
Yn lleoliad perffaith ar gyfer archwilio yr holl sydd gan canolbarth Cymru i’w gynnig, mae Bodalwyn yn cynnig ystafelloedd o gysur eithriadol, pob un ag ystafelloedd ymolchi eang sy’n cyfuno arddull a swyddogaeth. Mae’r tu mewn hardd, cyfnodol yn adleisio gwreiddiau’r tŷ yn gynnar yn y 1900au, gyda llawer o nodweddion gwreiddiol gan gynnwys lleoedd tân addurniadol mewn rhai ystafelloedd. Mae ein wyth ystafell wely cyffyrddus yn dangos sylw manwl i fanylion ac wedi’u haddurno a’u dodrefnu’n unigol.
Wedi ein lleoli ar lwybr arfordirol Ceredigion ac wrth droed rheilffordd enwog Rheilffordd y Graig, Craig Glais, rydym hefyd yn edrych allan dros yr ‘Orsaf Heddlu’ eiconig a welir yn nrama drosedd boblogaidd S4C, ‘Y Gwyll/Hinterland’ – sydd hefyd ar gael ar Netflix
Amdanom ni
Darganfyddwch fwy am Gwesty Bodalwyn
O’n Cwmpas
Darganfyddwch ein hardal leol, mae llwyth i’w wneud – waeth beth mae gennych ddiddordeb ynddo.
Ystafelloedd
Ystafelloedd modern a chwaethus, lle mae noson dawel o gwsg yn cael ei gwarantu.
Croeso
Gwesty Bodalwyn
Fel y gellir disgwyl, mae ceinder diamser yr addurniadau wedi eu hasio’n berffaith â holl hanfodion heddiw, gan gynnwys setiau teledu sgrin fflat a rhyngrwyd diwifr di-dâl. Mae cyfleusterau gwneud te a choffi ym mhob ystafell, a cheir oergell fach a microdonnau mewn rhai ohonynt.
Adnewyddwyd Bodalwyn yn 2020 gan gynnwys uwchraddio dodrefn, gwelyau newydd i gyd, setiau teledu, uwchraddio’r rhwydwaith diwifr ac ailaddurno llawn trwy’r gwesty.
Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau’r defnydd o blastigion untro ac hefyd yn ailgylchu cymaint â phosibl er mwyn lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd.
![](https://www.bodalwyn.co.uk/wp-content/uploads/2022/11/Bodalwyn_Front.png)
Ystafelloedd Gwely
Cewch gysgu dafliad carreg o’r môr, a cheir golygfa o’r môr o rhai o’n hystafelloedd.
Mae pob ystafell yn en-suite, gyda dewis o ystafelloedd teulu, ystafelloedd i dri, ystafelloedd dau wely, gwely dwbl neu gwely maint brenin. Mae gennym hefyd ystafelloedd sy’n addas ar gyfer y teithiwr unigol, pob un a gwelyau dwbl.
![](https://www.bodalwyn.co.uk/wp-content/uploads/2021/04/Local-Area.jpg)
Y Ardal Leol
Wedi’n lleoli’n berffaith ar gyfer pob math o wyliau gan gynnwys cerdded, beicio, teithiau ffordd gyda theulu neu ffrindiau, teithiau aml-aros, cyplau, grwpiau a’r teithiwr unigol.
Rydym yn gweithio’n agos gyda, ac yn darparu llety ar gyfer cwmnïau gwyliau megis Contours Holidays, Rabbies Tours and Celtic Trailsymysg eraill.
![](https://www.bodalwyn.co.uk/wp-content/uploads/2021/04/WiFi.png)
Adnoddau
Darperir ar gyfer pob math o arhosiad; corfforaethol, busnes neu bleser. Os oes gennych unrhyw anghenion penodol, cysylltwch â ni a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddiwallu’ch anghenion.
Digon o le parcio, o fewn maes parcio ac ar y stryd, ceir rhai cyfyngiadau a chodir tâl bychan.
Llety Hunan Arlwyo
Llety Gwyliau Glan y Môr
Mae gennym hefyd lety gwyliau glan môr ar gael, wedi’i leoli ar y prom yn Aberystwyth. Gallwch ei archebu’n uniongyrchol trwyddo ni, neu trwy AirBnB.
![](https://www.bodalwyn.co.uk/wp-content/uploads/2021/04/11.jpg)
Golygfeydd O'r Môr
![](https://www.bodalwyn.co.uk/wp-content/uploads/2021/04/10.jpg)
Addurn Modern
![](https://www.bodalwyn.co.uk/wp-content/uploads/2021/04/8.jpg)
Fflat Ail Lawr
![](https://www.bodalwyn.co.uk/wp-content/uploads/2021/04/14.jpg)