Gwesty wyth ystafell wely dan berchnogaeth annibynnol yw Bodalwyn wedi ei leoli yng nghanol tref Aberystwyth. Lleoliad perffaith i chi archwilio popeth sydd gan Aberystwyth a Cheredigion i’w gynnig a dim ond hanner munud o gerdded hyd at lan y môr. Rydym yn ymfalchïo yn yr amgylchedd hamddenol a geir o fewn ein hystafelloedd gwely, ein lolfa a’n hystafell wydr, i gyd wedi eu hadnewyddwyd yn ddiweddar.
Mae Bodalwyn yn dŷ Edwardaidd twyllodrus o fawr sydd wedi gweld sawl defnydd dros y blynyddoedd o feddygfa meddyg teulu, i gartref teulu, ac yn fwy diweddar, gwesty wedi ei redeg yn deuluol ers dros 20 mlynedd. Ym Mehefin 2020 cymerodd rheolwyr newydd yr awenau, gyda syniadau newydd ar ddylunio a dodrefnu a greodd agwedd cwbl newydd. Gwelwyd dyluniadau a syniadau modern yn cael eu hychwanegu i ategu at y bensaernïaeth Edwardaidd gyda’r nod benodol o greu awyrgylch hamddenol, cyfforddus ac amgylchedd croesawgar i’n gwesteion.
O fewn eiliadau o gyrraedd yma atom ni, gallwch fod ar y traeth, y tywod yn cosi rhwng bysedd eich traed ac yn anadlu awyr fwyn môr Ceredigion.
Recent Comments