Rydym yn falch o fedru parhau i gynnig brecwast i’n gwesteion. Rydym wedi gwneud rhai newidiadau o ran sut byddwn yn cynnig ein brecwast, ymhellach i adborth cadarnhaol parhaus gan westeion yn ystod cyfnod prawf ein bagiau ‘brecwast i fynd’ yn 2020.
Yn seiliedig ar yr arlwy brecwast a ddarperir yng ngwesty enwog pum seren yr ‘Hoxton Hotel’ yn Llundain. Rydym yn paratoi bagiau ‘brecwast i fynd’ ffres – brecwast poeth a chyfandirol y byddwn yn eu danfon i’ch ystafelloedd, bob bore. * Rhaid cyflwyno ffurflenni archebu i’r dderbynfa erbyn 9pm bob dydd. Gallwch archebu cymaint neu gyn lleied ag y dymunwch, rydym yn darparu ar gyfer pob angen dietegol.
Peidiwch â theimlo bod rhaid gwisgo fyny ar gyfer brecwast, gadewch inni ddod ag ef atoch chi. Wedi’r cyfan, rydyn ni yma er hwylustod i chi, a dyma’n union pam roedd gwesteion 2020 yn caru ein dull brecwast newydd. Os yw’n well gennych ddod â’ch bagiau ‘brecwast i fynd’ i’r ystafell wydr neu ein lolfa westeion, mae hwn hefyd yn opsiwn i chi.
Dewiswch o’n bwydlen frecwast ‘archebu ymlaen llaw’ helaeth sy’n cynnwys * –
Rhôl Brioche gyda chig moch lleol, hash brown
Rhôl Brioche gyda selsig lleol, hash brown
Rhôl Brioche gyda halloumi a thomato, hash brown
Rhôl Brioche gyda selsig figan a thomato, hash brown
Rhôl figan gyda selsig figan a thomato, hash brown
Granola, iogwrt, compot ffrwythau a mêl
Croissants wedi’u pobi yn ffres gyda dewis cyffeithiau
Tost gyda menyn a dewis cyffeithiau
Grawnfwydydd
Uwd gyda mêl a chyffeithiau
Dewis o diodydd poeth a suddion.
*Yn amodol ar argaeledd a newidiadau tymhorol
Recent Comments